Bagloriaeth Cymru: Cyflwyno’r Prosiect Unigol efo Prifysgol Aberystwyth, Senedd Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

25 Mehefin 2020 @ 11:00 – 12:30

 

Bydd y digwyddiad yma yn cynnwys 3 gweithdy dim mwy na 25 munud o hyd, efo saib byr rhwng bob gweithdy.

Prifysgol Aberystwyth: Bydd gweithdy’r Brifysgol yn canolbwyntio ar helpu myfyrwyr i ofyn y cwestiynau cywir yn eu prosiectau. Bydd yn cynnwys edrych ar wahanol deitlau ar gyfer pynciau dewis gwahanol a bydd y gweithdy yn annog myfyrwyr i feddwl am y sialensiau ynghlwm a dewis cwestiynau ymchwil. Bydd hyn yn cael ei wneud wrth ddefnyddio esiamplau o ymchwilwyr academaidd blaenllaw’r byd, yn egluro’r manteision o’r gwahanol ffyrdd o fynd ati i ymchwilio.

Senedd Cymru: Bydd sesiwn Tîm Addysg y Senedd yn canolbwyntio’n bennaf ar sut i ddewis pwnc addas ar gyfer y Prosiect Unigol a sut i gael gafael ar ffynonellau dibynadwy o gwmpas y pwnc. Bydd y sesiwn yn ymarferol a rhyngweithiol, ac yn edrych yn fras ar:

  • Sut i ddewis testun addas o gyd-destun Cymreig a’r pynciau sydd wedi eu datganoli
  • Pa ffynonellau gwybodaeth sy’n ddibynadwy, a sut i werthuso dibynadwyedd ffynonellau yn feirniadol
  • Ble i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy o safbwyntiau Cymreig a Phrydeinig

Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Bydd Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell Genedlaethol yn ffocysu ar bwysigrwydd cyfeirio a chydnabod gwaith eraill, un o’r disgyblaethau sy’n hanfodol ar gyfer llunio Prosiect Unigol cynhwysfawr. Bydd y sesiwn yn edrych yn benodol ar ddefnyddio Dull Cyfeirio Harvard, a bydd yn cynnwys enghreifftiau o sut i gywain gwybodaeth o amryw ffynonellau, a’i gyflwyno’n gywir yn y Llyfryddiaeth neu Restr gyfeirio. Rhoddir cyfle yn ystod y webinar i ymarfer cyfeirio, ac hefyd amser i glywed am lyfryn a gyhoeddwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol i gynorthwyo myfyrwyr gyda’r weithdrefn.

Proffiliau (Cliciwch os gwelwch yn dda): Prifysgol Aberystwyth, Senedd Cymru & Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn addas ar gyfer: Y sesiwn yn addas i myfyrwyr sy’n astudio neu’n ystyried astudio Bagloriaeth Cymru. Blwyddyn 12.

Paratoi / Cyn-Ddarllen: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Y Dechnoleg: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans (tebyg i Zoom). Mae’r gynulleidfa mewn cyfarfod Bluejeans yn gallu cyfathrebu drwy ddefnyddio eu meicroffonau i siarad yn uniongyrchol ag academyddion y brifysgol, neu ddefnyddio yr adnodd sgwrsio os ydy hynny’n well ganddynt. Bydd cyfranwyr yn gallu ymuno trwy ddefnyddio gliniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Noder bod y sesiwn yn cael ei recordio ac yn cael ei gynnig fel adnodd addysgiadol ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

Archebu Lle: Mae’r cyfle hwn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, nodwch eich diddordeb trwy glicio ar y ddolen isod i gael y ffurflen gofrestru: