Gweminarau Llais y Myfyrwyr

Cyfres o Weminarau efo Prifysgol Aberystwyth

Yn y gyfres weminar hon, mae Aberystwyth yn cynnig 2 ddigwyddiad rhyngweithiol yn ystod cyfnod o bythefnos gyda phob sesiwn yn para 45 munud yr un. Rhoddir pwyslais ar yr hyn sydd i ddisgwyl yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr ynghyd ag ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan ddarparu mewnwelediad clir i brofiad myfyrwyr yn Aberystwyth.

 

Fel myfyriwr neu riant / gwarcheidwad, byddwch yn clywed barn myfyrwyr presennol ac yn derbyn rhywfaint o gyngor defnyddiol ac awgrymiadau ar gyfer y dyfodol.

 

Mae strwythur y weminarau’n hygyrch, cyfeillgar, addysgiadol a rhyngweithiol.

 

Er mwyn derbyn y profiad mwyaf buddiol, byddem yn argymell ymuno â’r gyfres yn ei chyfanrwydd, ond, os ydych yn dymuno cymryd rhan mewn sesiynau unigol, croeso mawr i chi wneud hynny hefyd.

 

Ac ymunwch fel teulu os yw hynny’n bosib.




Mawrth 9 – 17:15-18:00

LLETY A LLEOLIAD

Mawrth 16 – 17:15-18:00

CHWARAEON A CHYMDEITHASU

Rydym yn edrych ymlaen at gysylltu â chi