- This event has passed.
Weminar 2: Dy Les Cyffredinol yn y Brifysgol Gyda Kayleigh Evans a Nia Lewis o Brifysgol Aberystwyth
29th June 2021 @ 17:00 - 18:00
Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r gyfres Dy Les yn y Brifysgol gan Brifysgol Aberystwyth. Bydd y gyfres hon yn cynnig cyflwyniad i gysyniadau allweddol ar gyfer helpu cynnal eich lles yn y Brifysgol. Bydd Ymarferwyr Lles, Cynghorwyr Hygyrchedd a myfyrwyr presennol yn trafod 2 brif thema yn canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer y brifysgol a’ch lles yn gyffredinol.
Mae popeth sydd o’n gwmpas, yr hyn sy’n digwydd yn gorfforol yn ein cyrff a’r hyn y mae ein meddyliau yn eu dweud wrthym yn effeithio ar ein lles. Yn y weminar hon, Dy Les Cyffredinol yn y Brifysgol, byddwn yn nodi sut y gall bywyd fel myfyriwr effeithio ar eich lles ac yn awgrymu strategaethau defnyddiol bydd yn medru eich helpu i gryfhau eich sgiliau hunanymwybyddiaeth fel y gallwch fod yn hapusach, yn iachach ac yn fwy cynhyrchiol yn eich gweithgareddau dyddiol tra byddwch yn y brifysgol a thu hwnt.
- Lles – beth yw hwn?
- Bywyd yn y brifysgol a’ch lles
- Strategaethau defnyddiol – beth sy’n gweithio’n dda i deimlo’n dda
Nod y gweminar yw eich helpu i gryfhau eich ymwybyddiaeth a’ch sgiliau wrth wneud y pethau sy’n ddefnyddiol i’ch lles fel y gallwch ffynnu yn eich bywyd.
Bydd staff a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn cyflwyno’r gweminar a byddant yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am baratoi ar gyfer bywyd yn y brifysgol a’r hyn y gall bywyd fel myfyriwr ei gyflwyno.
I gael rhagor o fanylion am y gyfres hon ac i weld digwyddiadau eraill Dy Les yn y Brifysgol, cliciwch ar y ddolen isod:
Yn addas ar gyfer: Blwyddyn 12 neu fyfyrwyr cyfatebol sy’n ystyried mynd i’r brifysgol ac sydd am gael gwybod mwy am yr hyn y gallant ei wneud i baratoi a pha gymorth sydd ar gael iddynt. Mae croeso mawr i fyfyrwyr Blwyddyn 13 hefyd.
Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.
Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: