BEGIN:VCALENDAR
VERSION:2.0
PRODID:-//Channel Talent - Interactive school webinars - ECPv4.6.22.1//NONSGML v1.0//EN
CALSCALE:GREGORIAN
METHOD:PUBLISH
X-WR-CALNAME:Channel Talent - Interactive school webinars
X-ORIGINAL-URL:https://www.channeltalent.co.uk
X-WR-CALDESC:Events for Channel Talent - Interactive school webinars
BEGIN:VEVENT
DTSTART;TZID=Europe/London:20210622T170000
DTEND;TZID=Europe/London:20210622T180000
DTSTAMP:20260418T130430
CREATED:20210615T195201Z
LAST-MODIFIED:20210615T195201Z
UID:24129-1624381200-1624384800@www.channeltalent.co.uk
SUMMARY:Weminar 1: Dy Les yn y Brifysgol…Paratoi i Fynd Gyda Kayleigh Evans a Nia Lewis o Brifysgol Aberystwyth
DESCRIPTION:Cofrestrwch Yma \n  \n\n \n\nRydym yn falch iawn o gyflwyno’r gyfres Dy Les yn y Brifysgol gan Brifysgol Aberystwyth. Bydd y gyfres hon yn cynnig cyflwyniad i gysyniadau allweddol ar gyfer helpu cynnal eich lles yn y Brifysgol. Bydd Ymarferwyr Lles\, Cynghorwyr Hygyrchedd a myfyrwyr presennol yn trafod 2 brif thema yn canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer y brifysgol a’ch lles yn gyffredinol. \nYn y weminar hon\, Paratoi i Fynd\, byddwn yn nodi syniadau defnyddiol ar sut i baratoi ar gyfer bywyd Prifysgol. Nod y gweminar yw eich helpu i gwmpasu pob maes yn eich paratoadau ar gyfer bywyd fel myfyriwr; tynnu sylw at rai o’r anawsterau y gall myfyrwyr eu hwynebu wrth iddynt drosglwyddo o’u bywyd ysgol i fywyd yn y brifysgol; beth all helpu i leihau anawsterau a ble i gael cyngor a chymorth os bydd anawsterau o unrhyw fath yn codi: \n\nPam paratoi?\nBeth yw’r heriau?\nBeth all helpu?\n\nGall cryfhau eich sgiliau paratoi gefnogi eich lles (yn gymdeithasol\, biolegol a seicolegol). Eich galluogi i deimlo dan reolaeth mewn unrhyw sefyllfa\, i deimlo’n hapusach ac yn iachach pan fyddwch yn cyrraedd ac yn ystod yr wythnosau cychwynnol wrth i chi ymgartrefu ac addasu i fywyd fel myfyriwr. \nBydd staff a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn cyflwyno’r gweminar a byddant yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am baratoi ar gyfer bywyd yn y brifysgol a’r hyn y gall bywyd fel myfyriwr ei gyflwyno. \n  \nI gael rhagor o fanylion am y gyfres hon ac i weld digwyddiadau eraill Dy Les yn y Brifysgol\, cliciwch ar y ddolen isod: \n\n“Dy Les yn y Brifysgol” – Aberystwyth \n  \n\n  \nYn addas ar gyfer: Blwyddyn 12 neu fyfyrwyr cyfatebol sy’n ystyried mynd i’r brifysgol ac sydd am gael gwybod mwy am yr hyn y gallant ei wneud i baratoi a pha gymorth sydd ar gael iddynt. Mae croeso mawr i fyfyrwyr Blwyddyn 13 hefyd. \nParatoi\, neu ddarllen paratoadol: Does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn. \nGofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron\, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad. \nArchebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn\, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: \nCofrestrwch Yma \n  \n\n
URL:https://www.channeltalent.co.uk/event/weminar-1-dy-les-yn-y-brifysgolparatoi-i-fynd-gyda-kayleigh-evans-a-nia-lewis-o-brifysgol-aberystwyth/
CATEGORIES:HE Application & Student Life
END:VEVENT
END:VCALENDAR