- This event has passed.
Weminar 1: Dy Les yn y Brifysgol…Paratoi i Fynd Gyda Kayleigh Evans a Nia Lewis o Brifysgol Aberystwyth
22nd June 2021 @ 17:00 - 18:00
Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r gyfres Dy Les yn y Brifysgol gan Brifysgol Aberystwyth. Bydd y gyfres hon yn cynnig cyflwyniad i gysyniadau allweddol ar gyfer helpu cynnal eich lles yn y Brifysgol. Bydd Ymarferwyr Lles, Cynghorwyr Hygyrchedd a myfyrwyr presennol yn trafod 2 brif thema yn canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer y brifysgol a’ch lles yn gyffredinol.
Yn y weminar hon, Paratoi i Fynd, byddwn yn nodi syniadau defnyddiol ar sut i baratoi ar gyfer bywyd Prifysgol. Nod y gweminar yw eich helpu i gwmpasu pob maes yn eich paratoadau ar gyfer bywyd fel myfyriwr; tynnu sylw at rai o’r anawsterau y gall myfyrwyr eu hwynebu wrth iddynt drosglwyddo o’u bywyd ysgol i fywyd yn y brifysgol; beth all helpu i leihau anawsterau a ble i gael cyngor a chymorth os bydd anawsterau o unrhyw fath yn codi:
- Pam paratoi?
- Beth yw’r heriau?
- Beth all helpu?
Gall cryfhau eich sgiliau paratoi gefnogi eich lles (yn gymdeithasol, biolegol a seicolegol). Eich galluogi i deimlo dan reolaeth mewn unrhyw sefyllfa, i deimlo’n hapusach ac yn iachach pan fyddwch yn cyrraedd ac yn ystod yr wythnosau cychwynnol wrth i chi ymgartrefu ac addasu i fywyd fel myfyriwr.
Bydd staff a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn cyflwyno’r gweminar a byddant yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am baratoi ar gyfer bywyd yn y brifysgol a’r hyn y gall bywyd fel myfyriwr ei gyflwyno.
I gael rhagor o fanylion am y gyfres hon ac i weld digwyddiadau eraill Dy Les yn y Brifysgol, cliciwch ar y ddolen isod:
Yn addas ar gyfer: Blwyddyn 12 neu fyfyrwyr cyfatebol sy’n ystyried mynd i’r brifysgol ac sydd am gael gwybod mwy am yr hyn y gallant ei wneud i baratoi a pha gymorth sydd ar gael iddynt. Mae croeso mawr i fyfyrwyr Blwyddyn 13 hefyd.
Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.
Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: