- This event has passed.
Tu ôl i’r Llen: Sesiwn Holi ac Ateb gydag Aelodau UMCA o Brifysgol Aberystwyth
14th April 2021 @ 17:15 - 18:00
Dewch yn llu i glywed mwy am fyw ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn Aber!
Bydd Llywyddion UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) ar gyfer eleni a’r flwyddyn nesaf yn ymuno â ni, yn ogystal â myfyrwyr presennol er mwyn cynnig mewnwelediad diddorol o beth sydd i’w ddisgwyl os ydych yn ystyried ymuno ag UMCA, byw ym Mhantycelyn a/neu astudio canran o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyma gyfle euraidd i chi holi cwestiynau a chanfod mwy am beth sy’n digwydd tu ôl i’r llen gydag UMCA.
Yn addas ar gyfer: I fyfyrwyr sy’n ystyried astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol.
Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.
Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: