Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Troseddeg: Cyfraniad Troseddeg i’r Argyfwng Hinsawdd, Dr Lowri Cunnington Wynn o Brifysgol Aberystwyth

12th June 2020 @ 11:00 - 12:00

 

Nid oes amheuaeth bod y byd yn wynebu argyfwng hinsawdd sylweddol a chymhleth. Mae dadleuon cyfredol o fewn Troseddeg yn mabwysiadu persbectif Gwyrdd, a bydd y sesiwn hwn yn cyflwyno myfyrwyr i’r prif ddulliau damcaniaethol sy’n gysylltiedig â Throseddeg Werdd, gan roi pwyslais arbennig ar safbwyntiau rhyngwladol ac atebion i’r argyfwng hinsawdd. Yn ogystal, bydd y sesiwn yn cyflwyno cysyniadau o ‘niwed amgylcheddol,’ yn erbyn cyfraith amgylcheddol.

Mae Troseddeg Werdd yn ganolog i ddealltwriaeth myfyrwyr o fyd sy’n newid, a bydd ysesiwn yn archwilio’r ddibyniaeth gymhleth rhwng bodau dynol, natur, yr hinsawdd sy’n newid a’i berthynas â niwed a throsedd.

 

Proffil Darlithydd (Cliciwch os gwelwch yn dda): Dr Lowri Cunnington Wynn

Yn addas ar gyfer: Myfyrwyr blwyddyn 10 – 13. Bydd y sesiwn yn addas i’r sawl sydd â diddordeb mewn Troseddeg fel pwnc ac mewn newid hinsawdd a’r argyfwng hinsawdd yn gyffredinol. Nid does rhaid bod yn astudio Troseddeg fel pwnc lefel A er mwyn medru dilyn y sesiwn.

Paratoi / Cyn-Ddarllen: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Y Dechnoleg: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans (tebyg i Zoom). Mae’r gynulleidfa mewn cyfarfod Bluejeans yn gallu cyfathrebu drwy ddefnyddio eu meicroffonau i siarad yn uniongyrchol ag academyddion y brifysgol, neu ddefnyddio yr adnodd sgwrsio os ydy hynny’n well ganddynt. Bydd cyfranwyr yn gallu ymuno trwy ddefnyddio gliniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Noder bod y sesiwn yn cael ei recordio ac yn cael ei gynnig fel adnodd addysgiadol ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

Archebu Lle: Mae’r cyfle hwn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, nodwch eich diddordeb trwy glicio ar y ddolen isod i gael y ffurflen gofrestru:

 

 

Details

Date:
12th June 2020
Time:
11:00 - 12:00
Event Categories:
, ,