Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Nyrsio – ym Mhrifysgol Aberystwyth Gyda Angharad Jones & Amanda Jones

24th November 2021 @ 17:00 - 18:00

 

Yn y gweminar yma, byddwn yn cysylltu â Chanolfan Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a fydd yn cyflwyno negeseuon allweddol ynglŷn â’i rhaglennu nyrsio yn y maes oedolion ac iechyd meddwl.  Mi fydd y tîm o’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd, sydd yn cynnwys darlithwyr nyrsio yn trafod themâu sydd wedi eu hanelu i’ch cynorthwyo i benderfynu ar yrfa mewn nyrsio a sut i baratoi eich cais.

Mae hwn yn gyfle da i rheini sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn nyrsio i gwrdd, clywed a sgwrsio gyda’r darlithwyr nyrsio yn y Brifysgol.  Mi fydd yna gyfle i ofyn cwestiynau a dysgu mwy am weithio yn y sector gofal iechyd fel nyrs gofrestredig.

Bydd y gweminar yn cael ei gynnal ar:

24ain Tachwedd, 5-6yp.

 

Yn benodol, byd y gweminar yn:

  • Trafod gyrfa nyrsio gyda chi o fewn meysydd nyrsio oedolion ac iechyd meddwl; byddwn yn archwilio opsiynau niferus o weithio o fewn y sector nyrsio ac edrych ar beth gall Prifysgol Aberystwyth ei gynnig i chi.  Fel nyrs gofrestredig, gallwch fwynhau gyrfa eang, amrywiol a foddhaol er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd.
  • Rhoi syniadau a chyngor i chi ynglŷn â sut i ysgrifennu datganiad personol.  O fewn y proses ceisio yn UCAS, eich datganiad personol bydd yr unig gyfle i chi werthu eich hunan a pherswadio’r Brifysgol i ddewis chi dros ymgeiswyr eraill.  Mae Tiwtoriaid Mynediad yn darllen canoedd o ddatganiadau personol bob blwyddyn, felly mae’n bwysig ei fod yn gywir ac yn sefyll allan – am y rhesymau cywir, wrth gwrs!
  • Edrych ar sut i baratoi am ddigwyddiad dewis myfyrwyr o fewn y Brifysgol, a beth i ystyried o flaenllaw, sy’n cynnwys cyngor ar ddeunydd darllen.  Mi fyddwn yn egluro sut bydd y digwyddiadau yma yn cael ei redeg, a thrafod y gweithgareddau grŵp a’r cyfweliad 1:1 bydd yn cael ei gyflwyno i chi ar y dydd.  Mi fyddwn hefyd yn egluro ymroddiad ymarferwyr clinigol, darlithwyr academaidd a mewnbwn defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr ac aelodau o’r cyhoedd.

 

Yn addas ar gyfer: This webinar is suitable for anyone considering a career in nursing and wants to find out more about the nursing program at Aberystwyth University.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Nid oes unrhyw baratoi ffurfiol na cyn-ddarllen, ond efallai gall cyfranogwyr ystyried cwestiynau o flaen llaw.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod:

 

Details

Date:
24th November 2021
Time:
17:00 - 18:00
Event Categories:
, ,