- This event has passed.
Mathemateg: Sesiwn Blasu – Blas ar Algebra a Chalcwlws Gyda Dr Tudur Davies a Dr Gwion Evans o Brifysgol Aberystwyth
5th March 2021 @ 11:15 - 12:00
Rhagflas o’r modiwl Algebra, sy’n eich cyflwyno i gysyniadau a dulliau sy’n treiddio trwy fathemateg a’r gwyddorau. Trafodwn sylfeini mathemateg ei hun (beth yw rhif a sut gallwn eu cynrychioli?) ynghŷd â chyffwrdd ar resymeg a dulliau profi, polynomialau, rhifau cymhlyg a’u pwysigrwydd i fathemateg a’r byd o’n cwmpas.
Byddwn hefyd yn rhoi rhagflas o Galcwlws, sef yr offeryn mathemategol ar gyfer delio gyda chyfraddau newid (differu) a chroniad (integru). Cawn edrych ar hanes y pwnc a’r helynt dros pwy oedd dyfeisiwr calcwlws, cyn ystyried pam ei fod yn declyn mor bwysig mewn mathemateg a gwyddoniaeth yn ehangach. Byddwn yn ystyried hefyd sut y caiff ei ddefnyddio yn y byd o’n cwmpas, er enghraifft ar gyfer optimeiddio.
Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):
Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Dr Tudur Davies a Dr Gwion Evans
Yn addas ar gyfer: Blynyddoedd 12 – 13. Myfyrwyr yn astudio Mathemateg neu’r gwyddorau.
Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.
Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: