BEGIN:VCALENDAR
VERSION:2.0
PRODID:-//Channel Talent - Interactive school webinars - ECPv4.6.22.1//NONSGML v1.0//EN
CALSCALE:GREGORIAN
METHOD:PUBLISH
X-WR-CALNAME:Channel Talent - Interactive school webinars
X-ORIGINAL-URL:https://www.channeltalent.co.uk
X-WR-CALDESC:Events for Channel Talent - Interactive school webinars
BEGIN:VEVENT
DTSTART;TZID=Europe/London:20201020T110000
DTEND;TZID=Europe/London:20201020T114500
DTSTAMP:20260608T090914
CREATED:20201009T074904Z
LAST-MODIFIED:20201027T114249Z
UID:22544-1603191600-1603194300@www.channeltalent.co.uk
SUMMARY:Heriau 2030 - Hanes: Newyddion Ffug\, Damcaniaethau Cynllwyn A Twyllwybodaeth: Ddoe\, Heddiw A Fory Gyda Dr Arddun Arwyn o Brifysgol Aberystwyth
DESCRIPTION:  \n \n  \n\nYn y gyfres ‘Heriau 2030’\, gan Brifysgol Aberystwyth\, bydd y sesiwn hon gan yr adran Hanes yn ystyried newyddion ffug\, damcaniaethau cynllwyn a twyllwybodaeth: ddoe\, heddiw a fory. \n\nMae newyddion ffug\, damcaniaethau cynllwyn a thwyllwybodaeth yn nodweddion peryglus o’r gymdeithas cyfoes. \nMae eu heffaith ar wleidyddiaeth yn ddinistriol\, maent yn amharu ar ymddiriedaeth ac yn creu rhaniadau peryglus mewn cymdeithas. \nPerir hefyd her fawr i’r dyfodol – ond nid yw newyddion ffug yn ffenomen newydd. Gellir cyfeirio at nifer o achosion hanesyddol pan roedd twyllwybodaeth a damcaniaethau cynllwyn wedi niweidio’r gymdeithas a gwleidyddiaeth. \nYn y sesiwn hon\, trafodir effaith niweidiol twyllwybodaeth ar yr Almaen yn ystod y Drydedd Reich. Dangosir hefyd sut mae sgiliau’r hanesydd wrth feddwl yn feirniadol\, trwy gwirio ffeithiau a dadansoddi yn ganolog i wrthsefyll twyllwybodaeth yn y dyfodol. \n  \n  \nY digwyddiadau eraill yng nghyfres Heriau 2030\, ac y byddwn yn adio sesiynau iddi yw (cliciwch yma): \n\nTachwedd 3 – 12:00-12:45 – Gwleidyddiaeth: Ydy’r cyfryngau cymdeithasol yn hybu neu’n tanseilio democratiaeth?\nTachwedd 17 – 12:00-12:45 – Daearyddiaeth Mewn Oes Ddigidol: Myfyrdodau Ar Y Chwyldro Technoleg Glyfar\n\n  \n  \nArweinydd/Darlithydd Sesiwn: Dr Arddun Arwyn \n\nYn addas ar gyfer: Blwyddyn 10-13. Myfyrwyr sy’n bwriadu mynd i Addysg Uwch. \nParatoi\, neu ddarllen paratoadol: Na\, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn. \nGofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron\, tabledi a dyfeisiau symudol. Os ydych chi’n ymuno fel grŵp ysgol\, ry’n ni’n argymhell y dylech chi ymuno trwy un ddyfais a gosod y sgrîn ar fwrdd gwyn rhyngweithiol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad. \nArchebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn\, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: \n\nCofrestrwch Yma \n  \n\n
URL:https://www.channeltalent.co.uk/event/heriau-2030-hanes-newyddion-ffug-damcaniaethau-cynllwyn-a-twyllwybodaeth-ddoe-heddiw-a-fory-gyda-dr-arddun-arwyn-o-brifysgol-aberystwyth/
CATEGORIES:History & Politics,Media & Communication,Social Studies
END:VEVENT
END:VCALENDAR