Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Heriau 2030 – Hanes: Newyddion Ffug, Damcaniaethau Cynllwyn A Twyllwybodaeth: Ddoe, Heddiw A Fory Gyda Dr Arddun Arwyn o Brifysgol Aberystwyth

20th October 2020 @ 11:00 - 11:45

 

 

Yn y gyfres ‘Heriau 2030’, gan Brifysgol Aberystwyth, bydd y sesiwn hon gan yr adran Hanes yn ystyried newyddion ffug, damcaniaethau cynllwyn a twyllwybodaeth: ddoe, heddiw a fory.

Mae newyddion ffug, damcaniaethau cynllwyn a thwyllwybodaeth yn nodweddion peryglus o’r gymdeithas cyfoes.

Mae eu heffaith ar wleidyddiaeth yn ddinistriol, maent yn amharu ar ymddiriedaeth ac yn creu rhaniadau peryglus mewn cymdeithas.

Perir hefyd her fawr i’r dyfodol – ond nid yw newyddion ffug yn ffenomen newydd. Gellir cyfeirio at nifer o achosion hanesyddol pan roedd twyllwybodaeth a damcaniaethau cynllwyn wedi niweidio’r gymdeithas a gwleidyddiaeth.

Yn y sesiwn hon, trafodir effaith niweidiol twyllwybodaeth ar yr Almaen yn ystod y Drydedd Reich. Dangosir hefyd sut mae sgiliau’r hanesydd wrth feddwl yn feirniadol, trwy gwirio ffeithiau a dadansoddi yn ganolog i wrthsefyll twyllwybodaeth yn y dyfodol.

 

 

Y digwyddiadau eraill yng nghyfres Heriau 2030, ac y byddwn yn adio sesiynau iddi yw (cliciwch yma):

 

 

Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Dr Arddun Arwyn

Yn addas ar gyfer: Blwyddyn 10-13. Myfyrwyr sy’n bwriadu mynd i Addysg Uwch.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Os ydych chi’n ymuno fel grŵp ysgol, ry’n ni’n argymhell y dylech chi ymuno trwy un ddyfais a gosod y sgrîn ar fwrdd gwyn rhyngweithiol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod:

 

Details

Date:
20th October 2020
Time:
11:00 - 11:45
Event Categories:
, ,