Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Heriau 2030 – Gwleidyddiaeth: Ydy’r Cyfryngau Cymdeithasol Yn Hybu Neu’n Tanseilio Democratiaeth? Gyda Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth

3rd November 2020 @ 12:00 - 12:45

 

 

Yn y gyfres ‘Heriau 2030’, gan Brifysgol Aberystwyth, bydd y sesiwn hon gan yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ystyried dylanwad cyfryngau cymdeithasol (megis Facebook a Twitter) ar ddemocratiaeth.

Mi fydd yn ystyried y gwahanol ddadleuon am ddylanwad y platfformau yma ar ddemocratiaeth, gan dynnu ar esiamplau cyfoes o wleidyddiaeth ryngwladol (gan gynnwys y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau ac eraill).

Sesiwn rhyng-weithiol fydd hon, gyda’r arweinydd yn cyflwyno’r thema a’r dadleuon, a cyfle i fyfyrwyr gwblhau tasgau ar y thema a gofyn cwestiynau.

 

Y digwyddiadau eraill yng nghyfres Heriau 2030, ac y byddwn yn adio sesiynau iddi yw (cliciwch yma):

 

Arweinydd/Darlithydd Sesiwn:  Dr Anwen Elias

Yn addas ar gyfer: Blwyddyn 10-13. Myfyrwyr sy’n bwriadu mynd i Addysg Uwch.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Os ydych chi’n ymuno fel grŵp ysgol, ry’n ni’n argymhell y dylech chi ymuno trwy un ddyfais a gosod y sgrîn ar fwrdd gwyn rhyngweithiol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod:

 

Details

Date:
3rd November 2020
Time:
12:00 - 12:45
Event Categories:
, , , , ,