- This event has passed.
Heriau 2030 – Daearyddiaeth Mewn Oes Ddigidol: Myfyrdodau Ar Y Chwyldro Technoleg Glyfar Gyda Yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth
17th November 2020 @ 12:00 - 12:45
Yn y gyfres ‘Heriau 2030’, gan Brifysgol Aberystwyth, bydd y sesiwn hon gan yn rhoi cyflwyniad beirniadol i’r ffyrdd y mae technoleg glyfar yn newid ein bywydau.
Rhoddir sylw arbennig i’r ffyrdd y mae technoleg glyfar yn ail-lunio ein bywydau cymdeithasol a gwaith.
Bydd y sesiwn hefyd yn archwilio materion gwyliadwriaeth ac anghyfiawnder sy’n gysylltiedig â’r chwyldro technoleg glyfar.
Rhennir y sesiwn yn 4 rhan o tua 10 munud yr un. Bydd mynychwyr yn gallu gofyn cwestiynau ar ddiwedd pob adran. Bydd ymarfer rhyngweithiol byr hefyd.
Y digwyddiadau eraill yng nghyfres Heriau 2030, ac y byddwn yn adio sesiynau iddi yw (cliciwch yma):
- Hydref 20 – 11:00-11:45 – Hanes: Newyddion Ffug, Damcaniaethau Cynllwyn A Twyllwybodaeth: Ddoe, Heddiw A Fory
- Tachwedd 3 – 12:00-12:45 – Gwleidyddiaeth: Ydy’r cyfryngau cymdeithasol yn hybu neu’n tanseilio democratiaeth?
Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Yr Athro Rhys Jones
Yn addas ar gyfer: Blwyddyn 10-13. Myfyrwyr sy’n bwriadu mynd i Addysg Uwch, yn enwedig rhai sydd eisiau astudio Daearyddiaeth neu Gymdeithaseg.
Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Os ydych chi’n ymuno fel grŵp ysgol, ry’n ni’n argymhell y dylech chi ymuno trwy un ddyfais a gosod y sgrîn ar fwrdd gwyn rhyngweithiol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.
Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: