- This event has passed.
Hanes: ‘Cerddi fel arfau yn y frwydr’: Cerddoriaeth yn y Mudiad Hawliau Sifil – Blas ar Hanes Gyda Dr Steve Thompson o Brifysgol Aberystwyth
12th March 2021 @ 11:15 - 12:00
Mae’r sesiwn hon yn ystyried y caneuon a ddefnyddiwyd gan y mudiad hawliau sifil Affro-Americanaidd yn y 1960au a’r 1970au.
Mae’n rhoi sylw i’r ffyrdd y defnyddiwyd caneuon yn y gorymdeithiau a’r ralïau protest ond hefyd y caneuon poblogaidd a gynhyrchwyd gan gwmnïau masnachol a adlewyrchai amcanion ac egwyddorion y mudiad.
Bydd y sesiwn yn dod i ben drwy ystyried y caneuon a ddefnyddiwyd yn ddiweddar yn ystod y mudiad Bywydau Du o Bwys.
Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):
Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Dr Steve Thompson
Yn addas ar gyfer: Blynyddoedd 11, 12 and 13 (yn y Deyrnas Unedig) neu fyfyrwyr rhynghwladol o’r un lefel. Myfyrwyr yn astudio hanes, gwleidyddiaeth neu gerddoriaeth.
Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.
Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: