- This event has passed.
Gwneud y Gorau o … Gyfweliadau Prifysgol Gyda Dafydd Morse, Swyddog Denu Myfyrwyr, o Brifysgol Aberystwyth
8th November 2021 @ 15:00 - 15:30
Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r gyfres Gwneud y Gorau o … gyda Phrifysgol Aberystwyth a fydd yn canolbwyntio ar unrhyw bwnc penodol sy’n ymwneud â bywyd yn y chweched dosbarth a thu hwnt. Byddant yn edrych ar yr holl benderfyniadau gwahanol y mae angen i chi eu gwneud drwy gydol y cyfnod hwn; boed yn gwneud y gorau o’r chweched dosbarth ei hun, eich lles, mynychu ffeiriau Addysg Uwch rhithiol a wyneb yn wyneb, Diwrnodau Agored a llawer mwy…
Yn y weminar yma, fydd ddim yn para mwy na 30 munud, byddwn yn trafod 6 maes allweddol y bydd angen i chi eu hystyried ynghyd â’r awgrymiadau a’r technegau y gallwch eu defnyddio er mwyn Gwneud y Gorau o … Gyfweliadau Prifysgol.
Rhennir y sesiwn yn 6 rhan byr, fydd yn edrych ar y pynciau canlynol –
- Defnyddio eich DP fel sail i’ch cyfweliad
- Sut i baratoi ar gyfer eich cyfweliad.
- Pa fath o gwestiynau i’w disgwyl
- Iaith y corff
- Oes rhaid i mi ofyn cwestiwn?
- Beth i’w wneud ar ôl y cyfweliad
Bydd Robin Lovatt a Dafydd Morse, rhai o Swyddogion Denu Myfyrwyr Aberystwyth, yn sôn am eu profiadau eu hunain ochr yn ochr â myfyrwyr presennol a byddant yn gofyn cwestiynau i chi eu hystyried ym mhob maes pwnc.
Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr Blwyddyn 12 a 13 glywed am sut gellir gwneud y gorau o’u hamser yn y chweched dosbarth, a gwneud y penderfyniadau cywir sy’n ymwneud â’r Brifysgol a thu hwnt.
I gael rhagor o fanylion am y gyfres wych hon ac i weld gweddill y weminarau Gwneud y Gorau o … , cliciwch ar y ddolen isod:
Yn addas ar gyfer: Blynyddoedd 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol sy’n cymryd rhan mewn grwpiau neu fel unigolion. Mae croeso mawr i athrawon, cynghorwyr, a rhieni hefyd. Sesiwn ar gyfer Myfyrwyr sydd yn paratoi ar gyfer eu Cyfweliadau Prifysgol.
Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.
Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: