Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Gwneud y Gorau o … Ffeiriau Addysg Uwch (wyneb i wyneb) Gyda Robin Lovatt, Swyddog Denu Myfyrwyr, o Brifysgol Aberystwyth

11th October 2021 @ 15:00 - 15:30

 

Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r gyfres Gwneud y Gorau o … gyda Phrifysgol Aberystwyth a fydd yn canolbwyntio ar unrhyw bwnc penodol sy’n ymwneud â bywyd yn y chweched dosbarth a thu hwnt. Byddant yn edrych ar yr holl benderfyniadau gwahanol y mae angen i chi eu gwneud drwy gydol y cyfnod hwn; boed yn gwneud y gorau o’r chweched dosbarth ei hun, eich lles, mynychu ffeiriau Addysg Uwch rhithiol a wyneb yn wyneb, Diwrnodau Agored a llawer mwy…

Bydd y sesiwn hon yn ateb 6 cwestiwn allweddol, a bydd yr atebion yn eich galluogi i wneud y gorau o Ffeiriau Addysg Uwch.

Y cwestiynau byddwn yn gofyn yw –

  1. Beth yw Ffair Addysg Uwch?
  2. Beth fyddai’n dysgu wrth fynd i Ffair Addysg Uwch?
  3. A oes Ffeiriau Rhithwir ar gael?
  4. C&A Myfyriwr: Beth wnaethoch chi ddysgu o fynd i Ffair Addysg Uwch?
  5. Ble mae’r Ffeiriau Addysg Uwch yn cael eu cynnal?
  6. Sut alla’ i fynd i un?

Bydd myfyriwr a raddiodd yn ddiweddar yn cymryd rhan yn y sesiwn hon i roi cyd-destun i fanteision Ffair Addysg Uwch ac i siarad am eu profiadau eu hunain yn y ffair.

 

Bydd Robin Lovatt a Dafydd Morse, rhai o Swyddogion Denu Myfyrwyr Aberystwyth, yn sôn am eu profiadau eu hunain ochr yn ochr â myfyrwyr presennol a byddant yn gofyn cwestiynau i chi eu hystyried ym mhob maes pwnc.

Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr Blwyddyn 12 a 13 glywed am sut gellir gwneud y gorau o’u hamser yn y chweched dosbarth, a gwneud y penderfyniadau cywir sy’n ymwneud â’r Brifysgol a thu hwnt.

 

I gael rhagor o fanylion am y gyfres wych hon ac i weld gweddill y weminarau Gwneud y Gorau o … , cliciwch ar y ddolen isod:

 

Mae ein digwyddiadau wedi’u cynllunio fel y gall grŵp o fyfyrwyr gymryd rhan o’r ystafell ddosbarth neu gall myfyrwyr ac athrawon gymryd rhan fel unigolion, naill ai o’u hysgolion neu o’u cartrefi. Mae hyn yn golygu y bydd sesiynau’n parhau os bydd rhaid i’r ysgolion cau.  

 

Yn addas ar gyfer: Blynyddoedd 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol sy’n cymryd rhan mewn grwpiau neu fel unigolion. Mae croeso mawr i athrawon, cynghorwyr, a rhieni hefyd.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod:

 

Details

Date:
11th October 2021
Time:
15:00 - 15:30
Event Category: