BEGIN:VCALENDAR
VERSION:2.0
PRODID:-//Channel Talent - Interactive school webinars - ECPv4.6.22.1//NONSGML v1.0//EN
CALSCALE:GREGORIAN
METHOD:PUBLISH
X-WR-CALNAME:Channel Talent - Interactive school webinars
X-ORIGINAL-URL:https://www.channeltalent.co.uk
X-WR-CALDESC:Events for Channel Talent - Interactive school webinars
BEGIN:VEVENT
DTSTART;TZID=Europe/London:20211004T130000
DTEND;TZID=Europe/London:20211004T133000
DTSTAMP:20260916T061620
CREATED:20210909T142700Z
LAST-MODIFIED:20210910T125602Z
UID:24521-1633352400-1633354200@www.channeltalent.co.uk
SUMMARY:Gwneud y Gorau o … Ddiwrnodau Agored Gyda Robin Lovatt\, Swyddog Denu Myfyrwyr\, o Brifysgol Aberystwyth
DESCRIPTION:Cofrestrwch Yma \n \n\n  \nRydym yn falch iawn o gyflwyno’r gyfres Gwneud y Gorau o … gyda Phrifysgol Aberystwyth a fydd yn canolbwyntio ar unrhyw bwnc penodol sy’n ymwneud â bywyd yn y chweched dosbarth a thu hwnt. Byddant yn edrych ar yr holl benderfyniadau gwahanol y mae angen i chi eu gwneud drwy gydol y cyfnod hwn; boed yn gwneud y gorau o’r chweched dosbarth ei hun\, eich lles\, mynychu ffeiriau Addysg Uwch rhithiol a wyneb yn wyneb\, Diwrnodau Agored a llawer mwy… \nBydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar 6 cwestiwn allweddol ynghylch mynychu Diwrnod Agored ac yn dangos sut i wneud y gorau o Ddiwrnodau Agored. \nBydd y sesiwn hon yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda myfyriwr a raddiodd yn ddiweddar i roi cyd-destun i chi ar yr hyn a gafwyd o fynychu Diwrnod Agored. \nByddwn hefyd yn siarad ag aelod o staff Academaidd i roi gwybod i chi beth fydd adrannau Academaidd yn ei ddangos i chi yn ystod Diwrnod Agored. \n\nPam mae Diwrnodau Agored yn bwysig?\nBeth sy’n digwydd yn ystod Diwrnod Agored?\nA allaf fynd i Ddiwrnod Agored Rhithwir yn lle?\nC&A Myfyriwr: Beth wnaethoch chi ddysgu wrth fynychu Diwrnod Agored?\nC&A Staff Academaidd: Beth mae adrannau academaidd yn ei ddangos yn ystod Diwrnodau Agored?\nSut ydych chi’n archebu lle ar gyfer Diwrnod Agored?\n\n  \nBydd Robin Lovatt a Dafydd Morse\, rhai o Swyddogion Denu Myfyrwyr Aberystwyth\, yn sôn am eu profiadau eu hunain ochr yn ochr â myfyrwyr presennol a byddant yn gofyn cwestiynau i chi eu hystyried ym mhob maes pwnc. \nDyma gyfle gwych i fyfyrwyr Blwyddyn 12 a 13 glywed am sut gellir gwneud y gorau o’u hamser yn y chweched dosbarth\, a gwneud y penderfyniadau cywir sy’n ymwneud â’r Brifysgol a thu hwnt. \n  \nI gael rhagor o fanylion am y gyfres wych hon ac i weld gweddill y weminarau Gwneud y Gorau o … \, cliciwch ar y ddolen isod: \nGWNEUD Y GORAU O … CYFRES GYDA PHRIFYSGOL ABERYSTWYTH \n  \nMae ein digwyddiadau wedi’u cynllunio fel y gall grŵp o fyfyrwyr gymryd rhan o’r ystafell ddosbarth neu gall myfyrwyr ac athrawon gymryd rhan fel unigolion\, naill ai o’u hysgolion neu o’u cartrefi. Mae hyn yn golygu y bydd sesiynau’n parhau os bydd rhaid i’r ysgolion cau.   \n\n  \nYn addas ar gyfer: Blynyddoedd 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol sy’n cymryd rhan mewn grwpiau neu fel unigolion. Mae croeso mawr i athrawon\, cynghorwyr\, a rhieni hefyd. \nParatoi\, neu ddarllen paratoadol: Na\, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn. \nGofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron\, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad. \nArchebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn\, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: \nCofrestrwch Yma \n  \n\n
URL:https://www.channeltalent.co.uk/event/gwneud-y-gorau-o-ddiwrnodau-agored-gyda-robin-lovatt-swyddog-denu-myfyrwyr-o-brifysgol-aberystwyth/
CATEGORIES:HE Application & Student Life
END:VEVENT
END:VCALENDAR