Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Gwneud y Gorau o … Baratoi ar gyfer eich Datganiad Personol Gyda Dafydd Morse, Swyddog Denu Myfyrwyr, o Brifysgol Aberystwyth

18th October 2021 @ 13:00 - 13:30

 

Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r gyfres Gwneud y Gorau o … gyda Phrifysgol Aberystwyth a fydd yn canolbwyntio ar unrhyw bwnc penodol sy’n ymwneud â bywyd yn y chweched dosbarth a thu hwnt. Byddant yn edrych ar yr holl benderfyniadau gwahanol y mae angen i chi eu gwneud drwy gydol y cyfnod hwn; boed yn gwneud y gorau o’r chweched dosbarth ei hun, eich lles, mynychu ffeiriau Addysg Uwch rhithiol a wyneb yn wyneb, Diwrnodau Agored a llawer mwy…

Yn y weminar yma, fydd ddim yn para mwy na 30 munud, byddwn yn trafod 6 maes allweddol y bydd angen i chi eu hystyried ynghyd â’r awgrymiadau a’r technegau y gallwch eu defnyddio er mwyn Gwneud y Gorau o … Baratoi ar gyfer eich Datganiad Personol.

Rhennir y sesiwn yn 6 rhan byr, fydd yn edrych ar y pynciau canlynol –

  • Gwneud y gwaith caib a rhaw ar gyfer eich Datganiad Personol.
  • Ochr dechnegol eich Datganiad Personol.
  • Gwaith tîm yw e!
  • Sut i strwythuro eich Datganiad Personol.
  • Mae’n bwysig eich bod yn cyflwyno’n dda!
  • Gorffen y Datganiad Personol mewn ffordd effeithiol.

 

Bydd Robin Lovatt a Dafydd Morse, rhai o Swyddogion Denu Myfyrwyr Aberystwyth, yn sôn am eu profiadau eu hunain ochr yn ochr â myfyrwyr presennol a byddant yn gofyn cwestiynau i chi eu hystyried ym mhob maes pwnc.

Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr Blwyddyn 12 a 13 glywed am sut gellir gwneud y gorau o’u hamser yn y chweched dosbarth, a gwneud y penderfyniadau cywir sy’n ymwneud â’r Brifysgol a thu hwnt.

 

I gael rhagor o fanylion am y gyfres wych hon ac i weld gweddill y weminarau Gwneud y Gorau o … , cliciwch ar y ddolen isod:

 

Mae ein digwyddiadau wedi’u cynllunio fel y gall grŵp o fyfyrwyr gymryd rhan o’r ystafell ddosbarth neu gall myfyrwyr ac athrawon gymryd rhan fel unigolion, naill ai o’u hysgolion neu o’u cartrefi. Mae hyn yn golygu y bydd sesiynau’n parhau os bydd rhaid i’r ysgolion cau.  

 

Yn addas ar gyfer: Blynyddoedd 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol sy’n cymryd rhan mewn grwpiau neu fel unigolion. Mae croeso mawr i athrawon, cynghorwyr, a rhieni hefyd. Sesiwn ar gyfer Myfyrwyr sydd yn paratoi ar gyfer eu Datganiadau Personol.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod:

 

Details

Date:
18th October 2021
Time:
13:00 - 13:30
Event Category: