- This event has passed.
Gwleidyddiaeth Ryngwladol: Sut gellir mynd i’r afael â her newid hinsawdd? Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth
22nd May 2020 @ 13:00 - 14:00
Newid hinsawdd yw’r her mwyaf sylweddol a chymhleth sy’n wynebu bywyd ar yn blaned heddiw. Ond sut a ellir mynd i’r afael â newid hinsawdd pan fo gwladwriaethau fel arfer yn canolbwyntio ar eu ffyniant economaidd a chymdeithasol eu hunain ac yn cael anhawster cydweithio?
Yn y sesiwn hon bydd Dr Huw Lewis yn dangos sut fod newid hinsawdd yn broses sy’n codi heriau sylfaenol i arferion a syniadau traddodiadol ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol ac yn ystyried beth yw’r rhagolygon gwleidyddol ar gyfer y dyfodol. Beth yw’r rhwystrau sy’n atal cydweithrediad? I ba raddau y gellir eu goresgyn?
Proffil Darlithydd (Cliciwch os gwelwch yn dda): Dr Huw Lewis
Yn addas ar gyfer: Myfyrwyr blwyddyn 12 a 13. Bydd y sesiwn yn addas i’r sawl sydd â diddordeb mewn materion gwleidyddol cyfoes. Nid does rhaid bod yn astudio gwleidyddiaeth fel pwnc lefel A er mwyn medru dilyn y sesiwn.
Paratoi / Cyn-Ddarllen: Does dim angen paratoi na darllen paratoadol.
Y Dechnoleg: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans (tebyg i Zoom). Mae’r gynulleidfa mewn cyfarfod Bluejeans yn gallu cyfathrebu drwy ddefnyddio eu meicroffonau i siarad yn uniongyrchol ag academyddion y brifysgol, neu ddefnyddio yr adnodd sgwrsio os ydy hynny’n well ganddynt. Bydd cyfranwyr yn gallu ymuno trwy ddefnyddio gliniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Noder bod y sesiwn yn cael ei recordio ac yn cael ei gynnig fel adnodd addysgiadol ar wefan Prifysgol Aberystwyth.
Archebu Lle: Mae’r cyfle hwn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, nodwch eich diddordeb trwy glicio ar y ddolen isod i gael y ffurflen gofrestru:
Dolen gofrestru: Gweminar Gwleidyddiaeth-Newid Hinsawdd 22 Mai 2020