- This event has passed.
Ffiseg: Sesiwn Blasu – Astroffiseg Gyda Liam Edwards, Myfyriwr PhD o Brifysgol Aberystwyth
26th February 2021 @ 11:15 - 12:00
Yn y ddarlith ryngweithiol hon, bydd ffisegydd o Brifysgol Aberystwyth yn trafod ei siwrne o TGAU i’r brifysgol ac yn rhoi cip olwg o sut mae bywyd fel ymchwilwr ffiseg, a sut mae’r gwaith a ddysgodd yn TGAU/Lefel-A yn bwysig i’w ymchwil.
Mae gan archwilio’r gofod, yn lleol yn ein system solar ac ymhellach i ffwrdd, gysylltiadau â themâu Lefel-A cyffredin. Mi fydd y ddarlith hon yn dangos yn glir sut mae’r pynciau sydd yn cael ei ddysgu yn ystod TGAU/Lefel-A yn ffitio mewn i’r gwaith ymchwil blaengar sydd yn cael ei wneud yn y brifysgol.
Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):
Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Liam Edwards
Yn addas ar gyfer: Blynyddoedd 10 – 13. Myfyrwyr yn astudio Ffiseg, astroffiseg, peirianneg, pynciau “STEM” eraill.
Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.
Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: