Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Daearyddiaeth: Cynaliadwyedd – Dyfodol Y Blaned A Dyfodol Cymru, Yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth

29th May 2020 @ 13:00 - 14:00

 

 

Mae’r ddarlith ryngweithiol hon yn trafod pwyslais cynaliadwyedd ar geisio creu dyfodol tecach ac un lle mae’r amgylchedd yn cael ei amddiffyn. Trafodir rhai o’r prif heriau sydd yn wynebu’r byd, gan gynnwys twf poblogaeth, y defnydd o ynni, cyflenwadau bwyd a dwr, a newid hinsawdd.

Yn ogystal â bod yn heriau byd-eang, mae’n nodweddiadol hefyd bod Cymru yn cael ei hystyried fel gwlad blaengar yn y cyswllt hwn, yn enwedig yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Trafodir rhai o brif nodweddion y Ddeddf. Gofynnir cwestiynau yn gyson i’r myfyrwyr fel rhan o’r sesiwn, a bydd gofyn iddynt hefyd i gwblhau tasg fer o 5 munud yn gysyllitedig â nodau llesiant Cymru.

Prif amcanion y sesiwn:

  1. Deall y prif heriau sy’n wynebu’r ddaear o ran cynaliadwyedd.
  2. Diffinio cynaliadwyedd.
  3. Deall a dehongli ymgais arloesol Cymru i greu gwlad mwy cynaliadwy.

 

 

Proffil Darlithydd (Cliciwch os gwelwch yn dda): Yr Athro Rhys Jones

Yn addas ar gyfer: Myfyrwyr blwyddyn 10 – 13. (Daearyddiaeth, Gwyddor yr Amgylchedd, Gwleidyddiaeth).

Paratoi / Cyn-Ddarllen: Does dim angen paratoi na darllen paratoadol.

Y Dechnoleg: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans (tebyg i Zoom). Mae’r gynulleidfa mewn cyfarfod Bluejeans yn gallu cyfathrebu drwy ddefnyddio eu meicroffonau i siarad yn uniongyrchol ag academyddion y brifysgol, neu ddefnyddio yr adnodd sgwrsio os ydy hynny’n well ganddynt. Bydd cyfranwyr yn gallu ymuno trwy ddefnyddio gliniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Noder bod y sesiwn yn cael ei recordio ac yn cael ei gynnig fel adnodd addysgiadol ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

Archebu Lle: Mae’r cyfle hwn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, nodwch eich diddordeb trwy glicio ar y ddolen isod i gael y ffurflen gofrestru:

 

 

Details

Date:
29th May 2020
Time:
13:00 - 14:00
Event Categories:
, ,