
- This event has passed.
Cyn, Yn Ystod a Thu Hwnt … Ffiseg Gyda Dr Huw Morgan, Liam Edwards a Dafydd Morse o Brifysgol Aberystwyth
13th July 2021 @ 11:00 - 12:00
Weminar 45 munud, yn 3 rhan 15 munud o hyd.
Cyn: cyflwyniad gan Dafydd Morse – Paratoi Myfyrwyr i astudio Ffiseg yn y Brifysgol gan edrych ar elfennau fel Datganiad Personol ac Ymchwilio Cyrsiau.
Yn Ystod: cyflwyniad gan Dr Huw Morgan – siarad am beth i’w ddisgwyl wrth astudio Ffiseg yn y Brifysgol drwy ganolbwyntio ar y gwahanol fodiwlau, cyfleusterau ac offer sydd ar gael yn yr adran.
Tu Hwnt: cyfweliad efo Liam Edwards, cyn-fyfyriwr Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Byddwn yn sgwrsio am amser Liam yn y Brifysgol, sut mae Liam yn defnyddio Ffiseg yn ei yrfa bresennol a chynlluniau Liam am ei dyfodol yn y sector Ffiseg.
Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):
Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Dr Huw Morgan
Yn addas ar gyfer: Blynyddoedd 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol sy’n ystyried Gradd sy’n gysylltiedig â Ffiseg. Mae croeso hefyd i fyfyrwyr sydd â diddordeb o ddisgyblaethau eraill.
Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.
Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: