Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Cyn, Yn Ystod a Thu Hwnt … Cymraeg Gyda Prof Mererid Hopwood o Brifysgol Aberystwyth

2nd July 2021 @ 11:00 - 12:00

 

Pwrpas y weminar ‘hon, yw rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am y ffordd orau o baratoi ar gyfer cwrs gradd mewn Cymraeg. O ganlyniad, byddwn yn rhoi cipolwg i chi ar sut beth yw astudio Cymraeg yn y Brifysgol a pha fodiwlau sydd ar gael. I gloi, byddwn yn cynnal sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda phedair chwaer sydd wedi graddio mewn Cymraeg o Brifysgol Aberystwyth ac sydd bellach yn gweithio i CYW (S4C), BBC, Menter Iaith a’r Urdd. Dyma gyfle euraidd i glywed lle pa fath o gyfleoedd sydd ar gael i raddedigion Cymraeg.

Trefn y Weminar –

  • 11:00 – Cyn: Swyddog Denu Myfyrwyr yn esbonio beth yw’r amrywiaeth o yrfaoedd sydd yn bosib.
  • 11:10 – Yn Ystod: Mererid Hopwood i gyflwyno Adran Y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, y modiwlau a gynigir gan yr adran ynghyd a’r amrywiaeth o ddisgyblaethau a chyfleoedd sydd ar gael.
  • 11:20 – Tu Hwnt: Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda graddedigion o Brifysgol Aberystwyth: Mared, Manon, Mirain a Martha
  • 11:50 – Cwestiynau gan y gynulleidfa.

 

Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):

 

Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Prof Mererid Hopwood

Yn addas ar gyfer: Blynyddoedd 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol sy’n ystyried Gradd sy’n gysylltiedig â Cymraeg. Mae croeso hefyd i fyfyrwyr sydd â diddordeb o ddisgyblaethau eraill.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod:

 

Details

Date:
2nd July 2021
Time:
11:00 - 12:00
Event Categories:
,