Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Cyn, Yn Ystod a Thu Hwnt … Busnes Gyda Prof Andrew Thomas, Jonathan Fry, Nerys Fuller-Love, Robin Lovatt, Steffan Thomas a Llion Pughe o Brifysgol Aberystwyth

18th June 2021 @ 11:00 - 12:00

 

Pwrpas y weminar ‘Cyn, Yn ystod a Thu Hwnt’ hon, yw rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am y ffordd orau o baratoi ar gyfer cwrs mewn Busnes. Yna byddwn yn rhoi cipolwg i chi ar sut beth yw astudio Busnes yn y Brifysgol a pa fodiwlau sydd ar gael. Yn olaf, byddwn yn gorffen gyda sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda dau o raddedigion Prifysgol Aberystwyth lle byddwch yn gweld pa fath o gyfleoedd sy’n aros i chi fel graddedigion Busnes.

Trefn y Weminar –

  • 11:00 – Cyn: Swyddog Denu Myfyrwyr yn esbonio beth yw’r amrywiaeth o yrfaoedd sydd yn bosib.
  • 11:10 – Yn Ystod: Aelod o Staff o Ysgol Fusnes Aberystwyth i gyflwyno’r YFA, y modiwlau cyfrwng Cymraeg a’r amrywiaeth o ddisgyblaethau sydd ar gael.
  • 11:20 – Tu Hwnt: Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda graddedigion o Brifysgol Aberystwyth, Steffan Thomas a Llion Pughe.
  • 11:45 – Cwestiynau gan y gynulleidfa.

 

 

Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):

 

Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Prof Andrew Thomas, Jonathan Fry & Nerys Fuller-Love

Yn addas ar gyfer: Blynyddoedd 11, 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol sy’n ystyried Gradd sy’n gysylltiedig â Busnes. Gallai hyn gynnwys meysydd Busnes a Rheolaeth, Cyfrifeg a Chyllid, Economeg, Marchnata a Thwristiaeth. Mae croeso hefyd i fyfyrwyr sydd â diddordeb o ddisgyblaethau eraill.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod:

 

Details

Date:
18th June 2021
Time:
11:00 - 12:00
Event Categories:
, ,