![Loading Events](https://www.channeltalent.co.uk/wp-content/plugins/the-events-calendar/src/resources/images/tribe-loading.gif)
- This event has passed.
Cymraeg: Trafferth Mewn Tafarn – Cerdd Enwocaf Dafydd Ap Gwilym, Eurig Salisbury o Brifysgol Aberystwyth
7th July 2020 @ 13:00 - 14:00
Dafydd ap Gwilym yw un o feirdd mwyaf cyffrous Cymru. Er bod canrifoedd lawer wedi mynd heibio ers iddo deithio’r wlad yn canu ei gerddi, mae ei eiriau’n dal i’n swyno heddiw. Ef yw ein bardd enwocaf, a’i gerdd enwocaf, mae’n siŵr, yw ‘Trafferth mewn Tafarn’.
Yn y gerdd honno, mae Dafydd yn adrodd stori ysgafn amdano’n ceisio caru â merch un noson, ac yn cael trafferthion lu wrth ymbalfalu tuag ati yn y tywyllwch, gan ddeffro pawb, yn cynnwys tri Sais blin!
Ond a oeddet ti’n gwybod nad mewn ‘tafarn’ oedd Dafydd, mewn gwirionedd, a bod ergyd lawer mwy difrifol i’r stori?
Bydd y sesiwn hon yn dod â geiriau Dafydd yn fyw ac yn galluogi inni glywed ei lais eto, agos saith canrif ar ôl canu ei gerdd enwocaf am y tro cyntaf.
Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Eurig Salisbury
Yn addas ar gyfer: Disgyblion blwyddyn 12 a blwyddyn 13. Bydd y sesiwn yn addas ar gyfer disgyblion sy’n astudio Cymraeg ac ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth.
Paratoi / Cyn-Ddarllen: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Y Dechnoleg: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans (tebyg i Zoom). Mae’r gynulleidfa mewn cyfarfod Bluejeans yn gallu cyfathrebu drwy ddefnyddio eu meicroffonau i siarad yn uniongyrchol ag academyddion y brifysgol, neu ddefnyddio yr adnodd sgwrsio os ydy hynny’n well ganddynt. Bydd cyfranwyr yn gallu ymuno trwy ddefnyddio gliniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Noder bod y sesiwn yn cael ei recordio ac yn cael ei gynnig fel adnodd addysgiadol ar wefan Prifysgol Aberystwyth.
Archebu Lle: Mae’r cyfle hwn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, nodwch eich diddordeb trwy glicio ar y ddolen isod i gael y ffurflen gofrestru: