Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Cymraeg: “Preseli”: Cerdd Gadarn Waldo Williams Gyda Yr Athro Mererid Hopwood o Brifysgol Aberystwyth

February 12 @ 11:15 - 12:00

 

 

Mae Waldo Williams yn cael ei gyfrif drwy Gymru a thu hwnt fel bardd o bwys. Efallai dy fod eisoes wedi clywed am rai o’i gerddi fel ‘Y Tangnefeddwyr’ a ‘Cofio’. Ond a oeddet ti’n gwybod am ei hanes fel ymgyrchydd dros heddwch?

Drwy edrych yn arbennig ar y gerdd ‘Preseli’, bydd y sesiwn hon yn gyfle i ni guro’r Clo Mawr ac ymweld ag ardal fynyddig gogledd Sir Benfro, a hynny heb symud cam o’n hystafelloedd adref. Bydd hefyd yn gyfle i ddysgu am gyfraniad y gerdd yn yr ymgyrch i ddiogelu ffordd o fyw pobl yr ardal, a hynny dros 75 o flynyddoedd yn ôl.

Ar ddiwedd y sesiwn, byddwn wedi trafod y gerdd ei hun, ac wedi ystyried sut y mae gwaith Waldo Williams yn ceisio ein hysbrydoli i drefnu cymdeithas sydd yn fwy cyfartal a theg.

 

Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):

 

Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Yr Athro Mererid Hopwood

Yn addas ar gyfer: I fyfyrwyr sy’n astudio neu sy’n ystyried astudio Cymraeg Lefel A; ac i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn Hanes Cymru, Darllen ac Ysgrifennu Barddoniaeth.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod:

 

Details

Date:
February 12
Time:
11:15 - 12:00
Event Categories:
,