Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Cymraeg: Aber yn Adolygu – ‘Y Meirwon’ gan Gwenallt Gyda Yr Athro Mererid Hopwood o Brifysgol Aberystwyth

15th April 2021 @ 16:00 - 17:00

 

 

Disgrifiwyd Gwenallt fel ‘Y bardd bach uwch beirdd y byd’ gan Thomas Parry gan bwysleisio pa mor fawr oedd Gwenallt fel bardd, er ei fod yn fach o gorff.

Yn ystod y sesiwn hon cawn fynd o dan groen y gerdd Meirwon ac ystyried beth oedd y profiadau dirdynnol a ysgogodd Gwenallt i lunio cerdd mor gignoeth.

Mae nifer o linellau’r gerdd yn tasgu’n chwerw, ac erbyn diwedd y sesiwn, byddwn wedi cael cyfle i holi beth tybed yw eu harwyddocad i ni heddiw?

Fel gyda’r sesiynau eraill cofia y bydd cyfle i ti holi cwestiynau, cytuno neu anghytuno, a chynnig dy syniadau di hun – ond heb reidrwydd! Y peth pwysicaf yw ein bod yn cael dod at ein gilydd a rhoi amser i drafod barddoniaeth.

 

Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):

 

Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Yr Athro Mererid Hopwood

Yn addas ar gyfer: Blynyddoedd 11, 12 a 13. I fyfyrwyr sy’n astudio neu sy’n ystyried astudio Cymraeg Lefel A; ac i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn Hanes Cymru, Darllen ac Ysgrifennu Barddoniaeth.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod:

 

Details

Date:
15th April 2021
Time:
16:00 - 17:00
Event Categories:
, , ,