Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Cymraeg: Aber yn Adolygu – Awdlau’r ‘Gododdin’ gan Aneirin Gyda Eurig Salisbury o Brifysgol Aberystwyth

18th November 2021 @ 16:00 - 17:00

 

Mae cerddi’r bardd Aneirin yn mynd â ni’n ôl i’r cyfnod cynharaf yn hanes yr iaith Gymraeg ac i Brydain wahanol iawn i’n dyddiau ni. Dewch ar daith yn ôl i’r chweched ganrif, pan oedd y Saeson yn newydd ddyfodiaid ar ynys Prydain ac yn brwydro i ennill eu lle yn erbyn y brodorion. Iaith y brodorion hynny oedd Cymraeg, ond nid yng Nghymru roedd Aneirin yn byw, ond yn yr ardal ry’n ni’n ei galw heddiw’n dde’r Alban …

Byd caled a rhyfelgar yw byd y ‘Gododdin’, sef casgliad o gerddi er cof am ryfelwyr dewr a fu farw’n ymladd yn erbyn y Saeson. Yng nghrefft Aneirin, daw’r rhyfelwyr yn ôl yn fyw, a’u harfau’n disgleirio gan waed.

Bydd y sesiwn hon yn taflu goleuni ar y cerddi eiconig hyn ac yn ein galluogi i ddarllen Cymraeg hynafol iawn drwy lygaid heddiw.

 

Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):

 

Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Eurig Salisbury

Yn addas ar gyfer: Blynyddoedd 11, 12 a 13. I fyfyrwyr sy’n astudio neu sy’n ystyried astudio Cymraeg Lefel A; ac i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn Hanes Cymru, Darllen ac Ysgrifennu Barddoniaeth.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod:

 

Details

Date:
18th November 2021
Time:
16:00 - 17:00
Event Categories:
,