- This event has passed.
Cymraeg: Aber yn Adolygu – Ar y ffin rhwng ffuglen a ffaith: darllen ‘Un Nos Ola Leuad’ Gyda Dr Bleddyn Owen Hughes o Brifysgol Aberystwyth
30th September 2021 @ 16:00 - 17:00
Bydd Dr Bleddyn Owen Huws yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i nofel Caradog Prichard gan roi sylw i’w chynllun a’i hadeiladwaith. Gan fod amryw o bobl yn gweld elfennau lled hunangofiannol ynddi, rhaid ystyried beth yw’r gwahaniaeth rhwng ffaith a ffuglen. Y mae’r naill yn seiliedig ar brofiad a’r llall yn seiliedig ar ddychymyg. Bydd y sesiwn yn gyfle i ystyried rhai o brif themâu’r nofel a thrafod yr hyn sy’n gwneud Un Nos Ola Leuad yn un o nofelau mwyaf nodedig yr iaith Gymraeg.
Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):
Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Dr Bleddyn Owen Hughes
Yn addas ar gyfer: Blynyddoedd 11, 12 a 13. I fyfyrwyr sy’n astudio neu sy’n ystyried astudio Cymraeg Lefel A; ac i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth yn gyffredinol.
Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.
Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: