Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Cymraeg: Aber yn Adolygu – ‘Aneirin’ gan Iwan Llwyd Gyda Yr Athro Mererid Hopwood o Brifysgol Aberystwyth

18th March 2021 @ 16:00 - 17:00

 

 

Un o ddelweddau cyson gwaith Iwan Llwyd yw delwedd y daith ac yn ystod y sesiwn hon byddwn yn teithio mewn amser a phellter. Mae teitl y gerdd dan sylw, Aneirin, yn mynd â ni yn ôl i’r 6ed Ganrif ac i fardd a gofnododd frwydr yng Nghatraeth yn yr Hen Ogledd, sef darn o dir a elwir heddiw yn Catterick ac sydd yn Swydd Efrog, Lloegr.

Erbyn diwedd y sesiwn byddwn ni felly wedi dysgu rhywbeth am ddau fardd ac wedi ystried o leiaf ddwy thema fawr yng ngwaith Iwan Llwyd.

Cofia y bydd cyfle i ti holi cwestiynau, cytuno neu anghytuno, a chynnig dy syniadau di hun – ond heb reidrwydd! Y peth pwysicaf yw ein bod yn cael dod at ein gilydd a rhoi amser i drafod barddoniaeth.

 

Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):

 

Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Yr Athro Mererid Hopwood

Yn addas ar gyfer: Blynyddoedd 11, 12 a 13. I fyfyrwyr sy’n astudio neu sy’n ystyried astudio Cymraeg Lefel A; ac i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn Hanes Cymru, Darllen ac Ysgrifennu Barddoniaeth.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod:

 

Details

Date:
18th March 2021
Time:
16:00 - 17:00
Event Categories:
, , ,