- This event has passed.
Busnes: Cyflwyniad i Ysgol Fusnes Aberystwyth a Chwis Rhyngweithiol Gyda Jonathan Fry, Andrew Thomas, Nerys Fuller-Love & Rhianedd Jewell o Brifysgol Aberystwyth
19th November 2020 @ 17:00 - 17:45
Mae’r sesiwn anffurfiol yma wedi ei drefnu er mwyn i ddisgyblion ysgolion uwchradd gwrdd â staff Ysgol Fusnes Aberystwyth ac i glywed Dr Rhianedd Jewell yn sôn am y radd gyd-anrhydedd ar y cyd rhwng Adran y Gymraeg a’r Ysgol Fusnes (Cymraeg y Gweithle Proffesiynol gyda Busnes a Rheolaeth neu Chyfrifeg a Chyllid).
Bydd yna gwis rhyngweithiol gyda gwobrau i’w hennill!
Arweinydd/Darlithydd Sesiwn: Jonathan Fry, Yr Athro Andrew Thomas, Nerys Fuller-Love & Dr Rhianedd Jewell
Yn addas ar gyfer: Blwyddyn 10-13. Myfyrwyr sy’n bwriadu mynd i Addysg Uwch, yn enwedig rhai sydd eisiau astudio Busnes, Marchnata, Twristiaeth, Economeg, Cyfrifeg a Chyllid, Cymraeg Proffesiynol.
Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Os ydych chi’n ymuno fel grŵp ysgol, ry’n ni’n argymhell y dylech chi ymuno trwy un ddyfais a gosod y sgrîn ar fwrdd gwyn rhyngweithiol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.
Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: