BEGIN:VCALENDAR
VERSION:2.0
PRODID:-//Channel Talent - Interactive school webinars - ECPv4.6.22.1//NONSGML v1.0//EN
CALSCALE:GREGORIAN
METHOD:PUBLISH
X-WR-CALNAME:Channel Talent - Interactive school webinars
X-ORIGINAL-URL:https://www.channeltalent.co.uk
X-WR-CALDESC:Events for Channel Talent - Interactive school webinars
BEGIN:VEVENT
DTSTART;TZID=Europe/London:20200710T110000
DTEND;TZID=Europe/London:20200710T143000
DTSTAMP:20260608T085633
CREATED:20200614T212013Z
LAST-MODIFIED:20200615T094205Z
UID:22041-1594378800-1594391400@www.channeltalent.co.uk
SUMMARY:Bagloriaeth Cymru: Cyflwyno’r Prosiect Unigol Efo Prifysgol Aberystwyth\, Senedd Cymru A Llyfrgell Genedlaethol Cymru
DESCRIPTION: \n  \nPrifysgol Aberystwyth: Bydd gweithdy’r Brifysgol yn canolbwyntio ar helpu myfyrwyr i ofyn y cwestiynau cywir yn eu prosiectau. Bydd yn cynnwys edrych ar wahanol deitlau ar gyfer pynciau dewis gwahanol a bydd y gweithdy yn annog myfyrwyr i feddwl am y sialensiau ynghlwm a dewis cwestiynau ymchwil. Bydd hyn yn cael ei wneud wrth ddefnyddio esiamplau o ymchwilwyr academaidd blaenllaw’r byd\, yn egluro’r manteision o’r gwahanol ffyrdd o fynd ati i ymchwilio. \nSenedd Cymru: Bydd sesiwn Tîm Addysg y Senedd yn canolbwyntio’n bennaf ar sut i ddewis pwnc addas ar gyfer y Prosiect Unigol a sut i gael gafael ar ffynonellau dibynadwy o gwmpas y pwnc. Bydd y sesiwn yn ymarferol a rhyngweithiol\, ac yn edrych yn fras ar: \n\nSut i ddewis testun addas o gyd-destun Cymreig a’r pynciau sydd wedi eu datganoli\nPa ffynonellau gwybodaeth sy’n ddibynadwy\, a sut i werthuso dibynadwyedd ffynonellau yn feirniadol\nBle i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy o safbwyntiau Cymreig a Phrydeinig\n\nLlyfrgell Genedlaethol Cymru: Bydd Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell Genedlaethol yn ffocysu ar bwysigrwydd cyfeirio a chydnabod gwaith eraill\, un o’r disgyblaethau sy’n hanfodol ar gyfer llunio Prosiect Unigol cynhwysfawr. Bydd y sesiwn yn edrych yn benodol ar ddefnyddio Dull Cyfeirio Harvard\, a bydd yn cynnwys enghreifftiau o sut i gywain gwybodaeth o amryw ffynonellau\, a’i gyflwyno’n gywir yn y Llyfryddiaeth neu Restr gyfeirio. Rhoddir cyfle yn ystod y webinar i ymarfer cyfeirio\, ac hefyd amser i glywed am lyfryn a gyhoeddwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol i gynorthwyo myfyrwyr gyda’r weithdrefn. \n  \n  \nProffiliau (Cliciwch os gwelwch yn dda): Prifysgol Aberystwyth\, Senedd Cymru & Llyfrgell Genedlaethol Cymru \nYn addas ar gyfer: Y sesiwn yn addas I myfyrwyr sy’n astudio neu’n ystyried astudio Bagloriaeth Cymru. Blwyddyn 12. \nParatoi / Cyn-Ddarllen: Na\, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn. \nY Dechnoleg: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans (tebyg i Zoom). Mae’r gynulleidfa mewn cyfarfod Bluejeans yn gallu cyfathrebu drwy ddefnyddio eu meicroffonau i siarad yn uniongyrchol ag academyddion y brifysgol\, neu ddefnyddio yr adnodd sgwrsio os ydy hynny’n well ganddynt. Bydd cyfranwyr yn gallu ymuno trwy ddefnyddio gliniaduron\, tabledi a dyfeisiau symudol. Noder bod y sesiwn yn cael ei recordio ac yn cael ei gynnig fel adnodd addysgiadol ar wefan Prifysgol Aberystwyth. \nArchebu Lle: Mae’r cyfle hwn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi gymryd rhan yn y digwyddiad hwn\, nodwch eich diddordeb trwy glicio ar y ddolen isod i gael y ffurflen gofrestru: \nCofrestrwch Yma \n  \n  \n\n
URL:https://www.channeltalent.co.uk/event/bagloriaeth-cymru-cyflwynor-prosiect-unigol-efo-prifysgol-aberystwyth-senedd-cymru-a-llyfrgell-genedlaethol-cymru/
CATEGORIES:HE Application & Student Life,Welsh Baccalaureate
END:VEVENT
END:VCALENDAR