Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Addysg Uwch – Cyffredinol: Yr Hyn Mae Tiwtoriaid Derbyn Yn Edrych Amdano – Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol Gyda Dafydd Morse & Dr Robin Chapman o Brifysgol Aberystwyth

6th October 2020 @ 13:30 - 14:00

 

 

Yn y gyfres ‘Beth mae Tiwtoriaid Derbyn yn edrych amdano pan yn derbyn ceisiadau i Brifysgol’, gan Brifysgol Aberystwyth, rydym yn cynnig 3 digwyddiad 30 munud sydyn a rhyngweithiol fydd yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt lunio eu ceisiadau prifysgol presennol neu rai yn y dyfodol.

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar gyfadran penodol a bydd yn cynnwys sgwrs fyw gyda swyddog denu myfyrwyr, tiwtor derbyn a myfyriwr presennol, gydag amser wedi benodi er mwyn i gyfrannwyr fedru bod yn rhan o’r drafodaeth.

Yn y sesiwn hwn byddwn yn edrych ar wneud cais i’r Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, gan drafod:

  1. Sut brofiad yw astudio’r Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (yn gyffredinol ac yn Aberystwyth)
  2. Pa fath o fyfyrwyr sy’n rhagori ac yn blodeuo, a beth fedr myfyrwyr ei ddysgu ar gwrs yn y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol
  3. Pa fath o brofiad yw’r broses ymgeisio, ac ydy hi’n wahanol iawn i brifysgolion eraill;
  4. Pa fath o rinweddau ydy’r brifysgol yn edrych amdanynt yn y cais, a cheir rhai awgrymiadau ynglŷn â sut i ysgrifennu cais rhagorol, gyda ffocws pendant ar y Datganiad Personol.

Mae hwn yn gyfle gwych i glywed oddi wrth bobl fydd yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar geisiadau, ac sy’n gwybod pa fath o rinweddau sy’n caniatau i fyfyrwyr fwynhau a ffynnu yn y brifysgol. Mae hefyd yn gyfle delfrydol, trwy gyfrwng fforwm cyfeilligar ac hamddenol, i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gyda chi ynglŷn â’r broses ymgeisio.

Yn maes y Gwyddorau Cymdeithasol, mae Prifyusgol Aberystwyth yn cynnig cyrsiau Astudiaethau Ffilm, Theatr a Theledu, Celf, Saesneg, Ieithoedd Modern, Cymraeg, Y Gyfraith, Addysg, Gwleidyddiaeth a Hanes.

Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):

 

Yn addas ar gyfer: Disgyblion Blwyddyn 13 sy’n bwriadu gwneud cais i brifysgol. Mae croeso i Flwyddyn 12 yn ogystal.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Ry’n ni’n argymhell y dylai disgyblion baratoi rhai cwestiynau o flaen llaw sy’n berthnasol ar gyfer eu cais arfaethedig ar gyfer Addysg Uwch, ac os ydyn nhw eisoes wedi cychwyn, i feddwl am unrhyw faterion fedr godi o safbwynt eu cais neu eu Datganiad Personol.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Os ydych chi’n ymuno fel grŵp ysgol, ry’n ni’n argymhell y dylech chi ymuno trwy un ddyfais a gosod y sgrîn ar fwrdd gwyn rhyngweithiol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: