- This event has passed.
Addysg Uwch – Cyffredinol: Pam Mynd I Brifysgol – Gwybodaeth I Rieni Gyda Robin Lovatt A Dafydd Morse o Brifysgol Aberystwyth
5th November 2020 @ 18:00 - 19:00
Bydd y sesiwn rhyngweithiol hwn yn amlinellu beth yw rhinweddau mynd i Brifysgol, a beth all myfyrwyr ei gael o fynychu Addysg Uwch.
Bydd yn amlygu y broses o ddewis prifysgol, ac yn amlinellu’r dyddiadau cau ar gyfer yr holl gamau. Bydd hyn yn addas i ddisgyblion Bl12 a 13. Bydd hefyd o fudd i rieni i gael gwybod y camau sy’n digwydd.
Bydd modd i ddisgyblion gymryd rhan un ai ar lafar neu’n ysgrifenedig.
Yn ystod y sesiwn hon byddwn yn trafod y pynciau isod –
- Amserlen a Phroses wneud Cais i Brifysgol
- Barn Myfyriwr ar y Proses
- Cyllid ac Ysgoloriaethau (ydy Prifysgol yn werth arian yn ystod COVID?)
- Barn Myfyriwr ar Ysgoloriaethau a mynychu yn ystod COVID
- Rhagolygon Gyrfa (yn cynnwys gweithio fel myfyriwr/AberWorks)
- Llety Myfyrwyr –
- Diogelwch Myfyrwyr a byw yn llety myfyrwyr yn ystod COVID –
- C&A – gyda myfyrwyr
Yn addas ar gyfer:Myfyrwyr sy’n bwriadu mynd i Addysg Uwch, neu falle ddim yn siwr o gyfeiriad ol-18 a’u rieni/gwarcheidwaid.
Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.
Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: