Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Addysg Uwch – Cyffredinol: Gwybodaeth am Addysg Uwch i Rieni Gyda Dafydd Morse a Llysgennad Myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth

19th May 2021 @ 17:00 - 18:00

Bydd y sesiwn yn edrych ar broses UCAS, o ddewis prifysgol i Clirio. Byddwn wedyn yn trafod Cyllid Myfyrwyr:

  • Bydd yn egluro’r system Cyllid Myfyrwyr yn gyffredinol.
  • Bydd yn esbonio beth mae cyllid myfyrwyr yn ei helpu, sef Costau Ffioedd a Chostau Byw.
  • Bydd yn esbonio sut mae CMC yn cefnogi myfyrwyr o Gymru gyda benthyciadau a grantiau.
  • Byddwn yn edrych ar Ysgoloriaethau, sut mae edrych amdanynt a beth yw eu gwerth.
  • Byddwn hefyd yn edrych ar ffynonellau nawdd eraill i fyfyrwyr.

Byddwn yn edrych ar sut mae cyllidebu ar gyfer y brifysgol – pryd mae grantiau, benthyciadau, ysgoloriaethau a bwrsariaethau yn cyrraedd, a beth ydyn ni’n talu amdano – bydd cyfraniad a gwybodaeth y llysgenhadon yn werthfawr yma.  Byddwn yn trafod gyda’r Llysgennad faint oedd eu rhieni yn ei ddeall am y brifysgol, a sut maen nhw’n teimlo nawr maen nhw i ffwrdd o adre.

Bydd modd hefyd trafod gyda’r llysgennad sut maen nhw wedi ymdopi gyda chyfnod COVID yn y brifysgol.

Bydd sesiwn C&A ar y diwedd.

 

 

Yn addas ar gyfer:Rhieni a Gwarcheidwaid disgyblion Bl 12, sydd efallai ddim yn gyfarwydd â’r broses a beth sy’n digwydd ar lefel Addysg Uwch a Phrifysgol.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Fydd dim eisiau paratoi o flaen llaw, er y byddai cwestiynau yn ymwneud â’r brifysgol yn ddefnyddiol.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod:

 

The session will look at the UCAS Process, from choosing University to Clearing. We will then discuss Student Finance.

· We’ll explain the Student Finance system generally

· We’ll explain what Student Finance will help with, from Fee Costs to Living Costs.

· We’ll explain how SFW helps students from Wales with loans and grants.

· We’ll look at Scholarships, how to find them and what they’re used for.

· We’ll also look at other useful financial assistance.

We’ll look at how to budget in University – when grants, loans, scholarships and bursaries are paid, and what we pay for – the assistance of a present day student will be useful here. We’ll discuss with the student what their parents understood about University, and how they feel now that they’re away from home.

It will also be an opportunity to discuss with the student how they’ve coped with the COVID crisis while at University. There will be a Q&A session at the end.

Suitable for: Parents and Guardians of Yr 12 students, who perhaps are not familiar with the Process and what happens in Higher Eductaion and University.

Preparation or Introductory Reading: There won’t be any need to prepare beforehand, but some questions about University will be welcome.

IT requirements: The event will be held on Bluejeans and you’ll be able to join with laptops, tablets, and portable devices. The full details will be sent to those who have registered before the event.

 

 

Details

Date:
19th May 2021
Time:
17:00 - 18:00
Event Category: