- This event has passed.
Addysg Uwch – Cyffredinol: Gweminarau Llais y Myfyrwyr – Llety a Lleoliad Gyda Dafydd Morse & Elen Roach o Brifysgol Aberystwyth
9th March 2021 @ 17:15 - 18:00
Cyfres o weminarau sy’n canolbwyntio ar yr hyn sydd i ddisgwyl yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr. Bydd y weminarau yma’n ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan ddarparu mewnwelediad clir i brofiad myfyrwyr yn Aberystwyth. Byddwch yn clywed barn myfyrwyr presennol ac yn derbyn rhywfaint o gyngor defnyddiol ac awgrymiadau ar gyfer eich dyfodol.
Bydd y weminar yma’n canolbwyntio ar y canlynol:
- Yr amrywiaeth o opsiynau llety sydd ar gael, e.e. arlwyo vs hunanarlwyo; campws vs glan y môr, a safon y llety’n gyffredinol; cyfleusterau rhanedig, en-suite neu stiwdio.
- Costau byw a sylwadau ynghylch y manteision a’r anfanteision wrth rentu llety preifat ar ôl y flwyddyn 1af.
- Profiadau myfyrwyr sy’n byw yn llety’r Brifysgol, ynghyd â’u cyngor ar sut i gyllido a thalu rhent.
- Ystyried costau byw Aberystwyth o gymharu â lleoliadau dinasoedd mawr, a’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
- Canolbwyntio ar harddwch naturiol Aber a thu hwnt. Byddwn yn tynnu sylw’r gynulleidfa at y ffaith bod Aber yn lleoliad gwych oherwydd ei bod yng nghanol y Mynyddoedd Cambrian a Bae Ceredigion sy’n darparu tirwedd drawiadol llawn bryniau, dyffrynnoedd, tywod a môr.
- Pwysleisio’r ffaith bod y dref yn un cosmopolitaidd a chyfeillgar gyda nifer o aelodau staff y Brifysgol a’r myfyrwyr yn dod o dros 100 o wledydd. Byddwn hefyd yn egluro sut mae brandiau poblogaidd y stryd fawr yn cyd-weithio gyda siopau annibynnol, caffis a’r Farchnad Ffermwyr.
- Mae digon o weithgareddau i wneud y tu mewn a thu allan i Aberystwyth. O fewn y dref ei hun, gellir mwynhau noson o gerddoriaeth byw, comedi stand-yp, noson allan llawn hwyl gyda ffrindiau, neu fynd am dro i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Y tu hwnt i Aberystwyth mae lleoliadau awyr agored gwych sy’n darparu mannau arbennig ar gyfer crwydro trwy goetir, cerdded i fyny bryniau neu feicio i lawr llwybrau beicio mynydd.
Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):
Yn addas ar gyfer: Cyfres o weminarau wedi eu telwra ar gyfer myfyrwyr a rhieni / gwarcheidwaid sy’n ystyried gwahanol opsiynau prifysgol.
Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.
Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod: