Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Addysg Uwch – Cyffredinol: Gweminarau Llais y Myfyrwyr – Chwaraeon a Chymdeithasu Gyda Robin Lovatt & Elen Roach o Brifysgol Aberystwyth

16th March 2021 @ 17:15 - 18:00

 

 

Cyfres o weminarau sy’n canolbwyntio ar yr hyn sydd i ddisgwyl yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr. Bydd y weminarau yma’n ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan ddarparu mewnwelediad clir i brofiad myfyrwyr yn Aberystwyth. Byddwch yn clywed barn myfyrwyr presennol ac yn derbyn rhywfaint o gyngor defnyddiol ac awgrymiadau ar gyfer eich dyfodol.

Bydd y weminar hon yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Ysgoloriaethau Chwaraeon: Esbonio’r gwahanol fathau o Ysgoloriaethau Chwaraeon sydd ar gael.
  • Byddwn yn sôn am y Ganolfan a’r Cyfleusterau Chwaraeon: Aelodaeth Blatinwm Am Ddim i’r Gampfa ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yn llety’r Brifysgol, y cyfleusterau gwych sydd ar gael a’r buddion i iechyd meddwl a lles cyffredinol.
  • Clybiau Chwaraeon a Chymdeithasau: Cyflwyniad i’r gwahanol glybiau a chymdeithasau sydd ar gael gyda rhywfaint o fewnwelediad gan Lywydd UMCA, un o gapteiniaid Y Geltaidd ac arweinydd Aelwyd Pantycelyn.
  • Crybwyll yr ystod eang o gymdeithasau sydd ar gael e.e; cymdeithasau academaidd, cymdeithasau sy’n seiliedig ar sgiliau, cymdeithasau hwyliog , yn ogystal â thrafod yr opsiwn o sefydlu cymdeithas eich hun.

 

Y digwyddiadau eraill yn y gyfres hon yw (cliciwch os gwelwch yn dda):

 

Yn addas ar gyfer: Cyfres o weminarau wedi eu telwra ar gyfer myfyrwyr a rhieni / gwarcheidwaid sy’n ystyried gwahanol opsiynau prifysgol.

Paratoi, neu ddarllen paratoadol: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Gofynion TG: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans a bydd pobl yn yn medru ymuno ar liniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Bydd modd i chi gysylltu â’r brifysgol trwy ddefnyddio un ai meicroffôn a/neu deipio sylwadau a chwestiynau. Bydd y manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai sydd wedi cofrestru (gweler isod) cyn y digwyddiad.

Archebu lle: Mae hyn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangoswch eich diddordeb drwy ddefnyddio y linc i’r ffurflen gofrestru isod:

 

Details

Date:
16th March 2021
Time:
17:15 - 18:00
Event Categories:
,