
- This event has passed.
Addysg Uwch – Cyffredinol: Dewis y Cwrs a Chwblhau’r Datganiad Personol – Gwneud y Penderfyniadau Cywir, Robin Lovatt, Dafydd Morse & Elen Roach o Brifysgol Aberystwyth
19th June 2020 @ 13:00 - 14:00
Bydd y sesiwn wedi’i rannu’n ddau – y rhan gyntaf wedi’i anelu at gynorthwyo darpar-fyfyrwyr i ddeall pa rinweddau sydd i gael gradd a sut i ddewis y cwrs a phrifysgol iawn. Byddwn yn trafod:
- Budd cael gradd
- Sut i ddewis y cwrs perffaith
- Sut i ddewis y prifysgol perffaith
Bydd ail ran y sesiwn yn edrych ar bwysigrwydd datganiad personol gwych a sut i’w ysgrifennu.
Bydd y sesiwn wedi’i rannu fel isod:
- Disgrifiad byr o’r datganiad personol, a’i rol a’i bwysigrwydd o fewn y cais i brifysgol
- Gorolwg o strwythur y Datganiad Personol
- Ysgrifennu’r Rhagymadrodd
- Beth i feddwl amdano pan yn siarad am eich pwnc dewisol
- Pam bod ysgrifennu am eich llwyddiannau allgyrsiol yn bwysig
- Ysgrifennu clo i’r datganiad.
Ar ddiwedd y sesiwn bydd cyfleoedd holi cwestiwn ac ateb – bydd rol y llysgenhadon yn bwysig yma.
Bydd elfennau rhyngweithiol fel holiadur anffurfiol neu gwis fel bod modd cynnal trafodaeth.
Yn addas ar gyfer: Myfyrwyr blwyddyn 12 – 13. Myfyrwyr sy’n bwriadu mynd i Addysg Uwch.
Paratoi / Cyn-Ddarllen: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.
Y Dechnoleg: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans (tebyg i Zoom). Mae’r gynulleidfa mewn cyfarfod Bluejeans yn gallu cyfathrebu drwy ddefnyddio eu meicroffonau i siarad yn uniongyrchol ag academyddion y brifysgol, neu ddefnyddio yr adnodd sgwrsio os ydy hynny’n well ganddynt. Bydd cyfranwyr yn gallu ymuno trwy ddefnyddio gliniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Noder bod y sesiwn yn cael ei recordio ac yn cael ei gynnig fel adnodd addysgiadol ar wefan Prifysgol Aberystwyth.
Archebu Lle: Mae’r cyfle hwn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, nodwch eich diddordeb trwy glicio ar y ddolen isod i gael y ffurflen gofrestru: