Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Addysg Uwch – Cyffredinol: Blas ar Fywyd Myfyriwr: Gwneud y dewisiadau cyllido cywir, Robin Lovatt, Dafydd Morse & Elen Roach o Brifysgol Aberystwyth

26th June 2020 @ 13:00 - 14:00

 

Bydd y sesiwn wedi’i rannu’n ddau, gyda’r rhan gyntaf yn edrych ar gyllid myfyrwyr, a’r ail yn edrych ar fywyd myfyrwyr. Bydd y rhan gyntaf yn edrych ar:

  • Beth yw’r system gyllido sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru
  • Pa fath o gefnogaeth gaiff myfyrwyr – Ffioedd a Chynhaliaeth – esboniad o hwn
  • Sut mae’r system yn gweithio, a phryd mae gwneud cais
  • Sut mae ad-dalu’r benthyciad myfyrwyr
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau – esbonio sut mae’r rhain yn gweithio
  • Unrhyw gymorth pellach sydd ar gael i fyfyrwyr

Bydd ail ran y sesiwn yn edrych ar fywyd myfyrwyr:

  • Sut brofiad yw symud o adre am y tro cyntaf
  • Wythnos y Glas
  • Astudio ar lefel prifysgol
  • Gwneud y mwyaf o fywyd myfyrwyr
  • Cyllido

Bydd elfen ryngweithiol i’r sesiynau, gyda phleidlais/holiadur a chwis, a bydd sesiwn Cwestiwn ac ateb ar y diwedd.

 

 

Yn addas ar gyfer: Myfyrwyr blwyddyn 12 – 13. Myfyrwyr sy’n bwriadu mynd i Addysg Uwch.

Paratoi / Cyn-Ddarllen: Na, does dim angen paratoi ar gyfer y sesiwn.

Y Dechnoleg: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Bluejeans (tebyg i Zoom). Mae’r gynulleidfa mewn cyfarfod Bluejeans yn gallu cyfathrebu drwy ddefnyddio eu meicroffonau i siarad yn uniongyrchol ag academyddion y brifysgol, neu ddefnyddio yr adnodd sgwrsio os ydy hynny’n well ganddynt. Bydd cyfranwyr yn gallu ymuno trwy ddefnyddio gliniaduron, tabledi a dyfeisiau symudol. Noder bod y sesiwn yn cael ei recordio ac yn cael ei gynnig fel adnodd addysgiadol ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

Archebu Lle: Mae’r cyfle hwn am ddim i ysgolion a cholegau. Os hoffech chi gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, nodwch eich diddordeb trwy glicio ar y ddolen isod i gael y ffurflen gofrestru:

 

Details

Date:
26th June 2020
Time:
13:00 - 14:00
Event Category: