Dy Les yn y Brifysgol

 

Yn y gyfres weminar hon byddwn yn siarad â Phrifysgol Aberystwyth fydd yn cyflwyno’r prif themâu yn ymwneud â’ch lles yn y Brifysgol. Bydd Ymarferwyr Lles, Cynghorwyr Hygyrchedd a myfyrwyr presennol yn trafod 2 brif thema yn canolbwyntio ar eich paratoad a’ch lles yn gyffredinol.

Bydd y ddau weminar yn cychwyn trwy drafod y pwnc (e.e. paratoi ar gyfer y Brifysgol), yr ‘heriau’ sy’n perthyn iddo drwy edrych ar sefyllfaoedd a phrofiadau myfyrwyr, a’r hyn sy’n gymorth i orchfygu’r heriau yma.

Mae hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion Blwyddyn 12 & 13 (a thebyg) i wrando, gwylio a chysylltu ag Ymarferwyr Lles yn y Brifysgol. Bydd llawer o gyfleoedd i ofyn cwestiynau ac i ddarganfod mwy am les yn y Brifysgol.

Mae’r fformat yn hygyrch, cyfeillgar, llawn gwybodaeth a chyfranogol.

.

22 Mehefin, 17:00-18:00

Weminar 1 – “Dy Les yn y Brifysgol…Paratoi i Fynd”

29 Mehefin, 17:00-18:00

Weminar 2 – “Dy Les Cyffredinol yn y Brifysgol”

Rydym yn edrych ymlaen at gysylltu â chi