“ Cyn, Yn Ystod a Thu Hwnt …”
Cyfres Drosolwg Pwnc gyda Phrifysgol Aberystwyth
Yn y gyfres weminar hon rydym yn cysylltu â Phrifysgol Aberystwyth a fydd yn cyflwyno’r penderfyniadau sydd angen eu gwneud cyn dewis cwrs gradd, y cyfnod astudio o fewn y Brifysgol a sut mae cyn-fyfyrwyr wedi llwyddo y tu hwnt i’w hastudiaethau.
Ar ddechrau bob gweminar, bydd amlinelliad o’r sgiliau bydd eu hangen ar ddisgyblion chweched dosbarth i astudio’r pwnc ar lefel gradd a’r profiadau amrywiol sydd medru cyfoethogi eu datganiadau personol UCAS, yn cael eu rhannu. Yna, bydd tiwtoriaid y pwnc sydd dan sylw yn cyflwyno’r cwrs, cyn clywed gan raddedigion sydd wedi dilyn llwybrau gyrfaol amrywiol ar ôl astudio’r cwrs hwnnw yn y Brifysgol.
Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr Blwyddyn 12 a 13 (neu gymhwyster cyfatebol) i glywed sut i baratoi ar gyfer astudio cyrsiau israddedig, profiadau’r graddedigion o fewn y Brifysgol, a sut mae hynny wedi’u eu paratoi ar gyfer eu swyddi presennol.
Bydd cyfle gan y gynulleidfa i ofyn cwestiynau ac i dderbyn gwybodaeth am benderfyniadau cyn-fyfyrwyr y brifysgol.
Mae strwythur y weminarau’n hygyrch, cyfeillgar, addysgiadol a rhyngweithiol.
11 Mehefin, 11:00-12:00
Cyn, Yn Ystod a Thu Hwnt … Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
18 Mehefin, 11:00-12:00
Cyn, Yn Ystod a Thu Hwnt … Busnes
25 Mehefin, 11:00-12:00