Cyfres “Gwneud y Gorau o...”
Cyfres gan Brifysgol Aberystwyth fydd yn trafod yr holl bynciau llosg sy’n codi wrth astudio yn y Chweched Dosbarth.
Yn y gyfres weminar wych hon, byddwn yn cysylltu â Phrifysgol Aberystwyth wrth iddynt gyflwyno unrhyw bwnc penodol sy’n ymwneud â bywyd yn y chweched dosbarth a thu hwnt. Byddant yn edrych ar yr holl benderfyniadau gwahanol y mae angen i chi eu gwneud drwy gydol y cyfnod hwn; boed yn gwneud y gorau o’r chweched dosbarth ei hun, mynychu ffeiriau Addysg Uwch rhithiol ac wyneb yn wyneb, Diwrnodau Agored, Cyfweliadau Prifysgol a llawer mwy…
Ym mhob weminar fydd yn para dim mwy na 30 munud, byddwn yn trafod 6 maes allweddol bydd angen i chi eu hystyried ynghyd â’r awgrymiadau a’r technegau y gallwch eu defnyddio er mwyn gwneud y gorau o bob maes pwnc. Mi fyddant yn gysylltiedig â’r adeg o’r flwyddyn rydych yn debygol o wneud y gorau o’r digwyddiadau neu’r penderfyniadau hyn. Bydd Swyddogion Denu Myfyrwyr Aberystwyth yn rhannu profiadau eu hunain ochr yn ochr â myfyrwyr presennol a byddant yn nodi’r cwestiynau fydd angen i chi eu hystyried ym mhob maes pwnc.
Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr Blwyddyn 12 a 13 glywed am sut gellir gwneud y gorau o’u hamser yn y chweched dosbarth, a gwneud y penderfyniadau cywir sy’n ymwneud â’r Brifysgol a thu hwnt.
Mi fydd llawer o gyfleoedd i ofyn cwestiynau ac i gael gwybod am yr holl bynciau llosg sy’n gysylltiedig â chyfnod myfyriwr yn y chweched dosbarth.
Mae strwythur y weminarau’n hygyrch, cyfeillgar, addysgiadol a rhyngweithiol.
Hydref 4 – 13:00-13:30
Gwneud y Gorau o…Ddiwrnodau Agored
Hydref 11 – 15:00-15:30
Gwneud y Gorau o…Ffeiriau Addysg Uwch (wyneb i wyneb)
Hydref 18 – 13:00-13:30
Gwneud y Gorau o…Baratoi ar gyfer eich Datganiad Personol
Tachwedd 8 – 15:00-15:30