Aber yn Adolygu
Cyfres Weminar gydag Adran Y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth
Ymunwch ag Adran Y Gymraeg ar gyfer y gyfres ‘Aber yn Adolygu’. Yn dilyn sesiynau ar Drafferth mewn Tafarn gan Dafydd ap Gwilym a Preseli gan Waldo Williams, bydd y sesiynau nesaf yn canolbwyntio ar bedair cerdd arall sydd ar y fanyleb Lefel A sef: Aneirin gan Iwan Llwyd, Y Meirwon gan Gwenallt, Cân y Milwr gan Karen Owen, a beaufort, blaenau gwent, mewn gwyrdd gan Ifor ap Glyn.
Bydd y digwyddiadau hwyliog hyn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gael tanio’u dychymyg gan ddarlithwyr o’r radd flaenaf. Cynlluniwyd y sesiynau i gyfoethogi’u hastudiaethau cyfredol wrth roi blas ar y math o brofiad academaidd a gynigir gan y Brifysgol.
Mae strwythur y weminarau’n hygyrch a chyfeillgar, addysgiadol a rhyngweithiol.
Er mwyn i chi dderbyn y profiad gorau, rydym yn argymell eich bod yn ymuno â’r gyfres yn ei chyfanrwydd, ond, os ydych yn dymuno cymryd rhan mewn sesiynau unigol, croeso mawr i chi wneud hynny hefyd.
Mae’r gyfres wedi’i chynllunio ar gyfer grwpiau ysgol/coleg yn ogystal â myfyrwyr ac athrawon unigol.
Mawrth 18 – 16:00-17:00
Aneirin gan Iwan Llwyd
Ebrill 15 – 16:00-17:00
Y Meirwon gan Gwenallt
Medi 16 – 16:00-17:00
Cân y Milwr gan Karen Owen
Medi 30 – 16:00-17:00
Darllen ‘Un Nos Ola Leuad’
Hydref 14 – 16:00-17:00
Beaufort, Blaenau Gwent, Mewn Gwyrdd gan Ifor ap Glyn
Tachwedd 18 – 16:00-17:00